Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Rhagfyr 2018

 

Ar 03 Rhagfyr 2018, cafodd Bil Llywodraeth, Bil Deddfwriaeth (Cymru) ei gyflwyno yn y Cynulliad.

Ar 13 Tachwedd 2018, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ar 27 Tachwedd 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 22 Mawrth 2019.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 24 Mai 2019, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.